top of page
union jack flag.jpg

    Ffabrig Cwyr Gwenyn

Ffabrig cwyr gwenyn wedi'i wneud â llaw yng Nghymru

gyda chwyr gwenyn lleol Ynys Môn.

Sut i’w defnyddio

 

Ydy amlapiau cwyr gwenyn yn bethau newydd i chi, neu ydych chi’n chwilio am syniadau ynglÅ·n â sut i’w defnyddio nhw? Rydych chi yn y lle cywir. Dyma ein 9 ffordd orau o ddefnyddio ein amlapiau cwyr Planhigion a Chwyr Gwenyn. Mae awgrymiadau yma hefyd ar sut i'w storio nhw, sut i beidio eu defnyddio nhw a sut maen nhw'n gweithio.

Pam ni?

 

Rydyn ni’n gwybod bod ein amlapiau’n arbennig o dda, yn ludiog tu hwnt ac yn hyblyg fel eu bod yn mowldio o amgylch unrhyw beth ac yn ffurfio sêl wych, ond nid yn ludiog i'w cyffwrdd. Yn glynu’n berffaith! Ond peidiwch â derbyn ein gair ni, gwrandewch ar yr hyn a ddywedodd rhai o’n cwsmeriaid hyfryd a darllenwch ragor am ein cymwysteru gwyrdd a’r hyn sy'n ein gwneud ni'n wahanol i bawb arall.

Beth sy'n Newydd!

​

Mae rhywbeth newydd yn digwydd o hyd ym Mhencadlys Beeswax Fabric Wraps. Nid wyf yn gallu gwneud yr un peth drwy’r amser! Felly cadwch lygad ar ein tudalen Beth sy’n Newydd a chofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

​

Organic sandwich wrap
the Beeswax Fabric Wraps team

Dyma ni!

 

Sally ydw i a Huw (sydd hefyd yn cael ei alw yn Post Boy), yw fy ngŵr. Rydym yn byw yn ardal hyfryd Ynys Môn, ac rydym wrth ein boddau yn mynd allan i archwilio byd natur yn ein fan, neu yn achos Huw, yn ei Gaiac. Ac fel arfer, mae gennym gacen mewn amlapiad wrth gwrs!

Are wax wraps for you?

A yw Amlapiau Cwyr gwenyn yn addas i chi?

 

Os nad ydych wedi defnyddio amlapiau cwyr gwenyn o'r blaen a bod gennych gwestiynau ynghylch a ydynt yn addas ar eich cyfer, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin i gael gwybod mwy neu cysylltwch â ni'n uniongyrchol a byddwn yn falch o'ch helpu i wneud y newid.

​
Fel y gwelir ar 
Im a celeb
bbc logo.jpg
Featured on Golwg
On Xray TV
as seen in primary science.jpg
bottom of page